ThomasDYMUNATHOMAS – Dymuna Francis, Beryl, Clifford a theulu’r diweddar Myra Thomas, 1 Bron Hendre, Trefor, ddiolch yn fawr iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Priod, Mam, Nain a Hen Nain. Diolch am yr holl gardiau, ymweliadau, galwadau ffôn ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof amdani tuag at FeddygfaLlanaelhaearn. Diolch hefyd i Dr. Harries a’r Nyrsus Cymunedol am eu gofal caredig. Diolch i’r Parchedigion Idris Thomas a Cledwyn Williams am y gwasanaeth urddasol a gynhaliwyd yng Nghapel Maesyneuadd a hefyd i Ifan Hughes, yr Ymgymerwr, am y trefniadau trylwyr a phroffesiynol.
Keep me informed of updates